Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 13 Mai 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.02 - 10.36 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Daniel Thomas, Deisebydd |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunwyd ar y cynnig a bu’r Aelodau’n ystyried materion yn codi o ddeiseb, yn breifat.
3 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus
Bu’r Pwyllgor yn trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 29 Ebrill a chytunwyd i baratoi adroddiad ar y ddeiseb fel y gall y Cynulliad drafod y materion a godwyd yn llawnach yn y Cyfarfod Llawn.
4.1 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eto i ofyn am ymateb i ohebiaeth gynharach; ac
· at y Gweinidog i ofyn am ei farn ynglŷn â sylwadau pellach y deisebydd ac i dynnu ei sylw at fethiant Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i ymateb i ohebiaeth.
4.2 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ynglŷn â’i brosesau ar gyfer gwerthuso cyffuriau canser o’r math y mae’r ddeiseb yn pryderu ynglŷn â hwy;
· gofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd a holi a yw datganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn bodloni unrhyw rai o’i bryderon; a
· gofyn am ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gan nad yw wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto.
4.3 P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ym mis Mehefin ar ôl i’r Grŵp Gweithredu Metro gyhoeddi’i gynigion mewn perthynas â Metro De-ddwyrain Cymru.
4.4 P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb gan nad yw’n debygol y bydd unrhyw newid ym mholisi’r Llywodraeth.
4.5 P-04-510 Ymchwiliad Cyhoeddus i achos Breckman yn Sir Gaerfyrddin
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth gyfreithiol ynglŷn â’r ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.
5 Deisebau newydd
5.1 P-04-550 Pwerau Cynllunio
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn ei farn am y ddeiseb, yn enwedig mewn perthynas ag a fydd y Bil Cynllunio arfaethedig yn cynnwys unrhyw gynigion i fynd i’r afael â’r mater sy’n pryderu’r deisebwyr; ac
· anfon copi o’r llythyr at y Gweinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Vaughan Gething.
5.2 P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb, gan gofio’r ystyriaeth a roddwyd i ddeiseb flaenorol a drafodwyd gan y Pwyllgor ynglŷn â mater tebyg.
5.3 P-04-552 Diogelu Plant
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a
· Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
5.4 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac
· OFcom
i ofyn eu barn am y ddeiseb ac, yn achos OFCOM, i weld a oeddent yn ymwybodol o unrhyw waith ymchwil diweddar i’r mater hwn.
5.5 P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau hyfforddi nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am eglurhad pellach ynghylch unrhyw bryderon penodol sy’n gefndir i’r ddeiseb.
5.6 P-04-555 Rhwystrwch y cynlluniau anfoesol a llym arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am eglurhad pellach ynghylch unrhyw bryderon penodol sy’n gefndir i’r ddeiseb.
5.7 P-04-556 Na i gau Cyffordd 41
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
ysgrifennu at:
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn ei barn am y ddeiseb ac i ofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â pham bod y gyffordd arbennig hon wedi’i nodi ar gyfer ei chau o bosibl; a
Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn eu barn am y mater.
6 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
6.1 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.
6.2 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a nodwyd fod Coed Cadw bellach yn aelod o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a chytunwyd i aros i’r Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor am ganfyddiadau’r Grŵp.
6.3 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac o ystyried llwyth gwaith y Pwyllgor ac ymrwymiadau eraill yr Aelodau, cytunwyd i wrthod y gwahoddiad. Wrth wneud hynny, penderfynwyd rhoi’r gwahoddiad i’r Gweinidog a gofyn iddo ef neu ei swyddogion ystyried y gwahoddiad fel rhan o’u hadolygiad o’r ddeddfwriaeth yn y maes hwn.
6.4 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at ColegauCymru i ofyn am wybodaeth ynghylch pa goleg oedd heb ymrwymo eto i’r contract Cymru Gyfan ar gyfer darlithwyr Addysg Bellach.
6.5 P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y Gweinidog yn wyneb ymateb y deisebydd.
6.6 P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ganiatau rhagor o amser i’r deisebwyr baratoi ymateb manylach i lythyr y Gweinidog, yn ôl eu cais.
6.7 P-04-534 Ymgyrch i ddiogelu YSBYTY ABERTEIFI
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y deisebwyr ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
6.8 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am ymateb brys gan Gyngor Dinas Caerdydd i gais y Pwyllgor am wybodaeth ac am ymweliad â’r adeilad.
7 Sesiwn Dystiolaeth - Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru
Bu’r tyst yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
7.1 P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
7.2 P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo
7.3 P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru